Datganiad Cymru ar gyfer Iechyd a Lles Meddwl
“Diffinio gweledigaeth, ysgogi gweithredu”
Yn eu Datganiad St Vincent1, tynnodd Sefydliad
Iechyd y Byd sylw at bwysigrwydd enfawr diabetes a’r ffordd y mae’n
niweidio iechyd yn y tymor hir ac yn achosi marwolaethau cynnar.
Mae’r Sefydliad wedi cydnabod bellach fod afiechyd meddwl yn achosi
hyd yn oed mwy o anabledd heddiw na diabetes a chlefydon corfforol
cronig eraill. Yn Natganiad Helsinki’r Sefydliad2, roedd
Gweinidogion Iechyd Ewrop yn cydnabod y pwysigrwydd hwn ac yn
ymrwymo’u hunain i weithredu.
Dywedodd y Gweinidogion:
“We endorse the statement that there is no health without
mental health. Mental Health is central to the human, social and
economic capital of nations.”
Mae afiechyd meddwl yn mynd yn fwy a mwy o broblem ym mhob
oedran ac ym mhob diwylliant, ac mae’n achosi marwolaethau cynnar
ac afiechyd cyffredinol. Mae hyn yn niweidio’n cymdeithas a’n
heconomi, ac mae’n effeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar
bob un ohonom.
Mae afiechyd meddwl yn arwain at fwy a mwy o farwolaethau ac i
fwy o unigolion fynd yn glaf. Mae’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig
yn effeithio ar unigolion a gwasanaethau iechyd y cyhoedd, a rhaid
rhoi sylw i’r rhain cyn y byddwn ni’n cyrraedd y nod o wella iechyd
a lles pobl Cymru. Nid yn unig y mae canlyniadau afiechyd meddwl
cronig yn wael ynddyn nhw eu hunain, ond mae gofyn cydnabod a mynd
i’r afael â’r problemau cysylltiedig fel gordewdra, arferion sy’n
arwydd o gaethiwed, symptomau meddygol sydd heb esboniad,
damweiniau, diweithdra, dyledion, tlodi, problemau ymddygiad a
phroblemau cynnal perthynas.
Mae gan Cymru wyth o’r deg ardal iechyd dlotaf yn y DU lle mae
amddifadedd ar ei waethaf4, ac mae iechyd rhai o
drigolion Cymru ymysg y gwaelaf yn Ewrop5. Nid oes modd
anwybyddu’r cysylltiad rhwng iechyd corfforol gwael ac iechyd
meddwl gwael. Mae afiechyd meddwl, felly, yn fater economaidd
pwysig yng Nghymru. Yn ogystal â Chynllun Oes (Designed for Life),
mae angen strategaeth iechyd a lles meddwl mewn gofal sylfaenol ar
Gymru os yw am lwyddo i gyrraedd ei nod o wella iechyd a gofal
cymdeithasol yng Nghymru’r 21ain ganrif.
Mae’n bryd i ni weithredu:
“Mabwysiadu atebion Cymreig i fodloni heriau
Cymreig”3
Rhaid i Gymru gydnabod yn ffurfiol y problemau amlwg a chynyddol
sy’n gysylltiedig ag afiechyd meddwl. Rhaid cydnabod bod perthynas
rhwng afiechyd meddwl ac afiechyd cyffredinol, a rhoi’r adnoddau
sydd ar gael i helpu’r broses o wella’r corff, y meddwl a’r
ysbryd.
Trwy gydweithio gyda’r gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol, y
sector gwirfoddol, busnesau a sefydliadau addysg, mae gan
Lywodraeth Cynulliad Cymru’r grym i greu’r amodau a fydd yn lleihau
baich llethol yr afiechyd, y salwch, y stigma a’r marwolaethau
cynnar y mae afiechyd meddwl yn eu hachosi, ac i hybu iechyd a lles
meddwl.
Mae’r gwaith o gynllunio a chreu strategaethau ar gyfer adnabod,
rheoli ac atal afiechyd meddwl yng Nghymru wedi cael ei wneud yn
barod ar lefel leol, genedlaethol ac Ewropeaidd. Felly, mae’n hen
bryd i ni weld gweithredu.
Fel unigolion yng Nghymru, rydyn ni i gyd:
• Yn gyfrifol am ein hiechyd a’n lles meddwl
ein hunain, ac am iechyd a lles meddwl pobl eraill.
• Angen datblygu’n dealltwriaeth ac ennill y
sgiliau i’n galluogi i adnabod arwyddion afiechyd meddwl mewn pobl
eraill ac ynom ein hunain.
• Angen llwybr rhwydd at wasanaethau a fydd
yn helpu pobl i wella a chryfhau, mynd yn fwy annibynnol a gallu
rheoli a chynnal eu hiechyd meddwl a’u lles meddwl eu hunain.
Fel rhan o’i chymdeithas, rhaid i bobl Cymru
dderbyn cyfrifoldeb yn eu cymunedau, eu gweithleoedd a’u teuluoedd
eu hunain er mwyn rhoi sylw i’r problemau creu a chynnal perthynas
sy’n effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau bob-dydd.
Beth fydd Rhwydwaith Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng
Nghymru’n ei wneud?
“Safonau Gofal Aur ar gyfer Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol
yng Nghymru”
Fel ymateb i’r cais hwn am weithredu, mae’r Rhwydwaith Iechyd
Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru (WaMH in PC) wrthi’n creu
Fframwaith o Safonau Aur ar gyfer Iechyd Meddwl mewn Gofal
Sylfaenol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’r fenter yn unigryw i
Gymru a’i gwasanaethau iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol. Yr hyn
sy’n ysgogi’r datblygiad yw’r awydd i godi’r proffil gwael sydd i
iechyd meddwl ar hyn o bryd, a rhoi fframwaith cadarn ac effeithiol
i feddygfeydd a gwasanaethau gofal sylfaenol ei ddefnyddio wrth
gomisiynu a darparu gwasanaethau. Pwrpas y Fframwaith o Safonau Aur
yw gwneud safonau gofal yn gyson. Mae wedi’i ymrwymo i arwain y
broses barhaus o wella iechyd a lles trwy atal afiechyd a chynnal
cleifion yn ystod eu triniaeth er mwyn eu gweld yn gwella, ac i
hybu eu lles.
Rydyn ni’n galw ar gyrff eraill i weithio gyda ni (y Rhwydwaith
Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru) i hybu:
• Iechyd meddwl a lles cyffredinol pawb sy’n
byw yng Nghymru.
• Gwasanaethau sy’n helpu pobl i wella ac
sydd wedi’u seilio ar werthoedd a thystiolaeth addas.
• Ymchwil a datblygu a fydd yn gweithio i
gasglu tystiolaeth yn sylfaen ar gyfer iechyd a lles meddwl.
• Arferion da trwy weithio gydag unigolion
a’u gofalwyr. Mae’n hanfodol i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau
greu perthynas gyda’r bobl hyn er mwyn creu’r math o wasanaethau y
mae arnyn nhw eu hangen. Bydd hyn yn digwydd trwy weithio mewn
partneriaethau a thrwy roi grym a chyfrifoldeb personol i bobl.
• Dulliau gweithredu sy’n cydnabod gwerth
unigolion fel pobl ac yn gweld posibiliadau therapiwtig y math hwn
o gydweithio a chreu perthynas.
Rhaid i ni weithio i helpu ein cymunedau a’n cydweithwyr i
ddeall, cefnogi a chydnabod y Safonau Aur hyn. Dim ond os bydd y
gymuned yn eu mabwysiadu y bydd y Safonau’n llwyddo. Bydd rhaid
iddyn nhw adeiladu ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru a
chydnabod y mentrau pwysig sy’n bod yn barod yng Nghymru.
I gyflawni hyn, bydd angen creu ffyrdd newydd o feddwl a
gweithio – y tu mewn i’n gwasanaethau iechyd a’r tu allan fel ei
gilydd. Rydyn ni wedi ymrwymo i’r gweithredu sy’n cael ei
ddisgrifio yn y datganiad hwn.
Rydyn ni’n galw ar lywodraethau lleol a chenedlaethol,
gwasanaethau iechyd, diwydiannau a busnesau, y sector gwirfoddol,
ysgolion a sefydliadau addysg, a chyrff eraill yng Nghymru i ymuno
â’r fenter hon ac i gyd-fynd â’r Datganiad hwn.
1 Datganiad St Vincent. Diabetes mellitus in
Europe: A problem at all ages in all countries and IDF. Saint
Vincent, Yr Eidal, Hydref 1989.
2 Datganiad Iechyd Meddwl ar gyfer Ewrop.
Facing the Challenges, Building Solutions. Sefydliad Iechyd y Byd,
Helsinki, Y Ffindir. Ionawr 2005.
3 Cynllun Oes. Creu Iechyd a Gofal Cymdeithasol
o’r radd flaenaf i Gymru yn yr 21ain ganrif. Llywodraeth
Cynulliad Cymru. Mai 2005.
4 Health Acorn Report CACI & TNS, Ionawr
2007.
5 Gwell Iechyd – Gwell Cymru, Y Swyddfa
Gymreig, Mai 1998.
Rhwydwaith Iechyd Meddwl mewn Gofal Sylfaenol yng Nghymru
Chwefror 2007